Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

 

 

 

Dyddiad:

Dydd Mercher, 20 Mehefin 2012

 

 

 

Amser:

10:00 - 12:30

 

 

 

Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=cy_800000_20_06_2012&t=0&l=cy

 

 

Cofnodion Cryno:

 

 

 

Aelodau’r Cynulliad:

 

Mark Drakeford (Cadeirydd)

Mick Antoniw

Rebecca Evans

Vaughan Gething

William Graham

Elin Jones

Lynne Neagle

Kirsty Williams

 

 

 

 

 

Tystion:

 

Lesley Griffiths, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwenda Thomas, Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

Gareth Griffiths, Llywodraeth Cymru

Chris Humphreys, Llywodraeth Cymru

Steve Milsom, Llywodraeth Cymru

David Worthington, Llywodraeth Cymru

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Fay Buckle (Clerc)

Llinos Dafydd (Clerc)

Meriel Singleton (Clerc)

Claire Griffiths (Dirprwy Glerc)

Catherine Hunt (Dirprwy Glerc)

Stephen Boyce (Ymchwilydd)

Philippa Watkins (Ymchwilydd)

 

 

 

<AI1>

1.  Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar a Lindsay Whittle. Nid oedd unrhyw ddirprwyon.

 

 

</AI1>

<AI2>

2.  Trafodaeth ar y flaenraglen waith - hydref

2.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad polisi byr i strategaeth yn y dyfodol ar gyfer diabetes yng Nghymru yn nhymor yr hydref, i’w amserlennu o amgylch ei ymrwymiadau craffu deddfwriaethol a chyllidebol.

 

2.2 Cytunodd y Pwyllgor y byddai ei ymchwiliad polisi tymor hwy nesaf yn canolbwyntio ar werthusiad o dechnoleg feddygol. Cytunodd y Pwyllgor y byddai amseriad y broses o gasglu tystiolaeth lafar ar gyfer yr ymchwiliad hwn yn dibynnu ar raglen graffu ddeddfwriaethol y Pwyllgor. 

 

2.3 Gwnaeth y Pwyllgor gais i’r cylch gorchwyl drafft ar gyfer y ddau ymchwiliad polisi gael eu paratoi gan yr ysgrifenyddiaeth fel y gellir cynnal ymgynghoriadau cyhoeddus dros doriad yr haf.

 

2.4 Cytunodd y Pwyllgor i drefnu sesiwn gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i drafod ei adroddiad blynyddol yn nhymor yr hydref.

 

 

</AI2>

<AI3>

3.  Ymchwiliad i ofal preswyl ar gyfer pobl hŷn - Tystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

3.1 Atebodd y Dirprwy Weinidog a swyddogion y cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor am ofal preswyl ar gyfer pobl hŷn.

 

3.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig am sut mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn ymgynghori â’r undebau llafur fel rhan o’i chynllun i foderneiddio’r broses reoleiddio ac arolygu, ac i ofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth ddarparu gwybodaeth am dargedau Llywodraeth Cymru i gynyddu’r defnydd o ragor o gyfleusterau gofal fel ffordd o ateb anghenion pobl hŷn. 

 

 

</AI3>

<AI4>

4.  Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) : Cyfnod 1 - Sesiwn dystiolaeth 1

4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

4.2 Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Cadeirydd i egluro pam mae’r manylion ynghylch yr hysbysiadau cost benodedig wedi’u cynnwys yn y Bil a pham nad yw’r esemptiadau posibl i’r cynllun wedi’u cynnwys ar y cam hwn.  

 

 

</AI4>

<AI5>

5.  Papurau i'w nodi

 

P-03-295: Kyle Beere - Gwasanaethau Niwroadsefydlu Paediatrig

 

5.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr a chytunodd nad oedd ei amserlen yn caniatáu ystyriaeth ddi-oed o wasanaethau niwroadsefydlu paediatrig, ond y byddai’n eu hystyried fel pwnc posibl ar gyfer gwaith yn y dyfodol.

 

Llythyr gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru - Confensiwn gan y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl hŷn

 

5.2 Trafododd y Pwyllgor y llythyr a chytunodd i drafod y mater gyda’r Comisiynydd yn nhymor yr hydref, yn ystod y sesiwn ddisgwyliedig ar adroddiad blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

 

 

</AI7>

<AI8>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>